icon
icon
icon
icon
icon
icon
icon

Menter Iaith Conwy

Archif

Hyfforddiant Awyr Agored

 

Byw ar y Fiw

 

poster
 
poster byw ar y fiw
 

Cyfieithu Cymunedol

 
poster
 

Llanast Llanrwst - Dathlu Degawd
Eleni cynhelir Llanast Llanrwst ’13 rhwng Tachwedd 28ain - 7fed o Ragfyr. Er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn dathlu degawd mewn steil, rydym wedi trefnu llu o ddigwyddiadau ar gyfer pawb o bob oedran.


Mi fydd yr ŵyl yn cychwyn gyda chyngerdd coffa i’r telynor Robin James Jones, gyda pherfformiadau gan Dylan Cernyw, Gwennan Gibbard ac Esyllt Tudur a mwy.

Ar yr 29ain o Dachwedd mi fydd Nadolig yn cychwyn go iawn yn Llanrwst, gyda gorymdaith Mair a Joseff, corau ieuenctid a pherfformiad gan y band gwerin amgen Plu.

Ar ddydd Sadwrn y 30ain, mi fydd Sweet Baboo yn ail gysylltu â’i wreiddiau yn Nyffryn Conwy, ac yn canu yng Nghaffi Contessa am 7:30y.h. Bydd cyfle i ddysgwyr yr ardal ddod am baned a sgŵrs a chymryd rhan mewn gweithgareddau hwyliog yng Ngwesty’r Eryrod am 1 y prynhawn.
Dydd Mercher 4ydd o Ragfyr, mi fyddwn yn herio Aelwydydd y Gogledd yng Nghystadleuaeth Noson Dros Ben Llestri'r Urdd yng nghanolfan Cymunedol ac Ieuenctid Llanrwst.

Mi fydd penwythnos mawr Llanast yn dechrau gyda Noson Cwis ‘Cymru, Lloegr a Llanrwst ar nos Wener 6ed o Ragfyr yn y Llew Coch.
Gorffennir yr ŵyl ar ddydd Sadwrn y 7fed, bydd digwyddiadau i blant yn cychwyn ym Mys a Bawd am 12:30, gweithdai ukelele Alun Tan Lan. Sioe Stwnsh am 1:30 yng nghlwb Llanrwst a sesiwn stori a chân a Peppa Pinc yng Nghaffi Contessa i ddilyn.

Bydd y Llanast yn cychwyn am 5y.h, gydag artistiaid bandiau a dj’s yn crwydro o gwmpas y tafarndai. Mi fydd Jessop a’r Sgweiri, Mr Huw, Tecwyn Ifan, Radio Rhydd, Alun Tan Lan, Memory Clinic a bandiau gwerin a llawer mwy yn creu Llanast o gwmpas y dref. Mi fydd y noson yn gorffen yng Ngwesty’r Eryrod gyda’r Moniars, Gai Toms a DJ.

Am fwy o wybodaeth , ewch i ymweld â gwefan Llanast, www.llanastllanrwst.tumblr.com neu ffoniwch ni 01492642357, e-bost eryl@miconwy.org.


Profiad Bythgofiadwy i dair merch o Gonwy

criw

Dydd Mercher, 23 Hydref bydd Bethan Sian Hale ac Alwen Messamah o Ysgol y Creuddyn ac Erin Gwyn Rossington o Ysgol Dyffryn Conwy yn pacio’u bagiau ac yn ymuno gydag 18 o bobl ifanc o ogledd Cymru ar daith fythgofiadwy i Batagonia gydag Urdd Gobaith Cymru a Mentrau Iaith Cymru.

Byddant ym Mhatagonia am 10 diwrnod, ac yn ogystal â chael profiad o’r diwylliant Archentaidd-Gymreig unigryw, mi fyddant yn gwneud gwaith gwirfoddol megis cynorthwyo yn yr ysgol feithrin, cynnal sesiynau adeiladu tîm yng Ngholeg Camwy ac ymweld â’r henoed sydd yn siarad Cymraeg.

I gael mynd ar y daith, roedd rhaid iddynt godi £2,250 yr un, ac mae’r tair wedi llwyddo i gyrraedd y targed. Ymysg y gweithgareddau codi arian a drefnwyd roedd bore coffi, ffair grefftau yn y neuadd bentref a chyngerdd yng Nghlwb Rygbi Nant Conwy.

Yn ôl Bethan, “Un o’r rhesymau pam oeddwn i eisiau mynd ar y daith i Batagonia gyda’r Urdd oedd am fod gen i deulu yn nhref Gaiman a Threlew. Mi wnaethant symud i Batagonia tua 10 mlynedd yn ôl, ac rwyf yn gobeithio y caf gyfle i’w cyfarfod tra mod i allan yno.”

Ychwanegodd Erin, “Rwyf yn edrych ymlaen i gyfarfod y pobl ifanc allan yna sydd yn siarad Cymraeg fel ni. Mae’n anodd credu fod yr iaith yn fyw ochr arall y byd, ac rwy’n credu y bydd yn brofiad gwych.”

Bydd tri aelod o staff ar daith gyda’r bobl ifanc – Eryl Williams, Swyddog Datblygu’r Urdd ym Môn, Branwen Haf, Cydlynydd Ail-iaith Cenedlaethol yr Urdd a Ceri Phillips o Fenter Iaith Conwy.

Dywedodd Eryl Williams, arweinydd y daith, “Mae hwn yn gyfle gwych i griw o bobl ifanc gael profiad unigryw a chofiadwy. Mae’n wych ein bod yn cydweithio gyda’r Mentrau Iaith i drefnu’r daith gan bod eu cyfraniad a’u cyngor hwy yn hynod o werthfawr.”

Ychwanegodd Meirion Davies, Cyfarwyddwr Datblygu Menter Iaith Conwy, “Mae’r daith flynyddol hon i Batagonia yn gyfle gwych i bobl ifanc weld pa mor werthfawr yw’r iaith Gymraeg ac yn rhoi blas iddynt o ddiwylliant unigryw Patagonia. Yn dilyn y daith pan fyddant yn ôl adref yng Nghymru, rydym yn gweld fod y bobl ifanc lawer mwy parod i ddefnyddio eu Cymraeg yn gymdeithasol, sydd yn wych.”


Cyfarfod agored i drafod - Y Gymraeg ar y Glannau

poster

 

Dydd Sadwrn Hydref 26ain 2013

Festri Capel Seilo, Arvon Avenue, Llandudno

10.00yb - 3.00yp

Dewch am baned ac i drafod

Cliciwch y poster am fwy o wybodaeth


Ymholiad Gofal Sylfaenol Comisiynydd y Gymraeg- Casglu tystiolaeth gan siaradwyr Cymraeg

image

Mae Comisiynydd y Gymraeg am glywed eich profiadau - da neu wael - o ddefnyddio’r Gymraeg yn y:

• Feddygfa
• Fferyllfa
• Deintyddfa
• Optegydd

Hefyd gyda nyrsys practis, timau amlddisgyblaethol yn y gymuned a llinell Galw Iechyd Cymru.

Rydym eisiau clywed am effaith profiadau o dderbyn neu fethu â derbyn gwasanaeth gofal sylfaenol yn Gymraeg.

Hoffem glywed gan unrhyw un sydd wedi cael profiad fel claf neu ddefnyddiwr, aelodau teulu neu gynhalwyr neu ofalwyr yn y 12 mis diwethaf.

Am fwy o wybodaeth neu i gyflwyno tystiolaeth ewch i’r wefan: comisiynyddygymraeg.org

Mae’n bwysig cael nifer dda o siaradwyr Cymraeg yn rhoi eu safbwyntiau ac adrodd eu profiadau i’r Comisiynydd. Mae sawl ffordd o gyfrannu:

• Ffurflen ar-lein ar wefan y Comisiynydd
• Ffurflen drwy’r post (gallwn anfon un allan)
• E-bost
• Gohebiaeth arferol
• Galwad ffôn (gallwn drefnu eich ffonio)
• Mynychu un o’r digwyddiadau cyhoeddus ym mis Medi/Hydref.

Bydd y Comisiynydd yn cynnal digwyddiad cyhoeddus ar 3 Hydref yng Nghanolfan Glasdir, Llanrwst am 3.00-4.00 p.m. Croeso i bawb.

Y dyddiad cau am dystiolaeth yw 11 Hydref 2013

Gallwch ffonio 0845 6033221 neu e-bostio:YmholiadIechyd@comisiynyddygymraeg.org


Cyfaill & Te yn y grug

poster

 

 

Cyfaill & Te yn y grug
Medi 21

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth



Prosiect Ffilmiau’r Ffin - Gweithdai ffilm am ddim i bobl ifanc

poster

Os ydych erioed wedi breuddwydio am weld eich enw mewn golau, mae gennym gynnig i chi!

Mae Mentrau Iaith ogledd-ddwyrain Cymru, mewn partneriaeth gyd adran Teledu a Perfformio Phrifysgol Glyndwr, yn cynnig 4 diwrnod o weithdai am ddim i bobl ifanc, rhwng Awst 27 - 30.

Cewch gyfle i flasu bywyd fel myfyriwr y brifysgol, mynychu gweithdai ar sgiliau perfformio, saethu, recordio a golygu hefo tiwtoriaid a Chwmni Gweledigaeth - tîm cynhyrchu proffesiynol cyfrwng Cymraeg. Bydd y ffilm a chynhyrchir yn cael ei arddangos fel rhan o wyl ffilm ac ar-lein.

Mae’r gweithdai ar gyfer pobl ifanc rhwng 14 - 25 sydd eisiau’r profiad o weithio trwy gyfrwng y Gymraeg.

Am fwy o wybodaeth neu i gadw lle, cysylltwch â Rebecca: rebecca@menteriaithsiryfflint.co.uk

 


AILGYLCHU’R ARDAL


Murluniau Ailgylchu Ysgolion ardal Penmaenmawr a Llanfairfechan

Mae’r artist Eleri Jones wedi bod yn cyd-weithio gyda phedair ysgol yn ardal arfordirol Sir Conwy rhwng misoedd Ionawr a Mawrth eleni i greu cyfres o furluniau trawiadol gyda phwyslais ar ddefnyddiau wedi’w hailgylchu. Mae’r murluniau yn cael eu harddangos tu allan i Ysgolion Pencae, Capelulo, Pant Y Rhedyn a Babanod Llanfairfechan, yn ogystal â rhai llai ar gyfer ystafelloedd dosbarth rhai o’r ysgolion.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth a lluniau


Cefnogaeth i Fusnesau Dwyieithog

Ydych chi’n ymwybodol o’r manteision o weithredu’n ddwyieithog? O dan Gynllun Datblygu Gwledig i Gymru 2007-2013 mae Mentrau Iaith gogledd ddwyrain Cymru yn cynnig cefnogaeth i fusnesau a mentrau cymdeithasol gwledig sydd eisiau gweithredu’n ddwyieithog.
Gall busnesau a mentrau elwa o gefnogaeth mentor bydd yn gweithio gyda nhw i ddatblygu polisi iaith Gymraeg; a mynediad i seminarau marchnata bydd yn ei galluogi i wneud defnydd gorau o’r iaith Gymraeg. Gall busnesau a mentrau o Wrecsam ymgeisio am y Grant Ddwyieithrwydd Mewn Busnes o hyd at £1,600 tuag at gostau deunyddiau marchnata ddwyieithog.
Os hoffech ddarganfod os yw eich busnes neu fenter yn gymwys, cysylltwch ar y manylion isod:

Siroedd Fflint, Dinbych a Chonwy: rebecca@menteriaithsiryfflint.co.uk 01352 744042
Wrecsam: busnes@menteriaithmaelor.org / 01978 363791

Ariannwyd fel rhan o’r Prosiect Iaith Cydweithredol, gyda chymorth Echel 4 y Cynllun Datblygu Gwledig i Gymru 2007-2013 a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru a'r Gronfa Ewropeaidd ar gyfer Datblygiad Gwledig.

 


Codi'r Crwst

Prosiect newydd ar y gweill Codi'r Crwst, cyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn ardal Llanrwst - sydd am fod o fudd i'r rheiny sydd yn dysgu Cymraeg, wedi colli hyder yn y Gymraeg neu yn syml isio digwyddiadau trwy'r cyfrwng Gymraeg i'r teulu a mwy, bydd na groeso cynnes i bawb. - AM DDIM i gychwyn - Byddwn ni'n dechrau drwy hyrwyddo Teithiau Cerdded Codi'r Crwst – Am fwy o wybodaeth cysylltwch â MIConwy 01492642357 neu ceri@miconwy.org


Cynllun EgNi Menter Iaith Conwy

llywarch

Mae cynllun EgNi wedi ei sefydlu gan Menter Iaith Conwy er mwyn creu mwy o gyfleoedd gwaith yn y sector amgylcheddol i siaradwyr Cymraeg Sir Conwy.

Bydd swyddog newydd y cynllun, Llywarch ap Myrddin, yn cyd-weithio gyda chynlluniau cymunedol yn ogystal â thirfeddianwyr unigol lleol. Nod y gwaith yw datblygu cyfleoedd economaidd i siaradwyr Cymraeg yn y sector ynni adnewyddadwy drwy gynlluniau penodol a hyfforddiant perthnasol.

Gwelir yn y cyfrifiad diweddaraf mai ardaloedd cefn gwlad Cymru sydd wedi dioddef fwyaf gyda’r cwymp yn y niferoedd sydd yn siarad yr iaith Gymraeg. Mae Menter Iaith Conwy wedi adnabod bod diffyg swyddi yn lleol yn achosi allfudiad bobl ifanc Cymraeg o ardal wledig Sir Conwy. Maent yn gorfod gadael eu hardal enedigol i chwilio am waith, gan nad oes digon o swyddi â chyflog da i’w gael yn lleol - cliciwch yma


Amserlen Digwyddiadau Llanast Llanrwst 2012.

Nos Wener 30 o Dachwedd.

Goleuadau Nadolig Llanrwst yn cael eu goleuo, perfformiad gan blant Ysgol Bro Gwydir a mwy.

Stondinau Nadolig ar y sgwâr gan gwmnïau yr ardal – a perfformiadau unigryw.

Sioe Farddonol, Cnoi Draenogod. Gyda’r Prifardd Rhys Iorwerth, Llyr Gwyn Lewis, Anni Llyn, Osian Rhys Jones. 8y.h, Gwesty’r Eryrod, Llanrwst. £5 o flaenllaw neu £6 ar y drws.

Dydd Sadwrn, Canolfan Cymunedol Llanrwst, 11 y bore ymlaen.

Gweithdy Rap gan Ed Holden a Sioe Stwnsh, yng nghanolfan Cymunedol Llanrwst. Dechrau am 11 y bore.

Caffi Contessa

Arddangosfa Cerddoriaeth Llanrwst.
Sesiwn acwstig gan Plu am 3 y prynhawn.

Hwyr Prynhawn Sadwrn

Amser: 5.30-7.00
Yr Oen
a mwy, Red Lion, Llanrwst.
Am ddim .

Amser; 7.30-8y.h
Y Niwl
Sen Segur
Pen Y Bryn, Llanrwst.
Am ddim.

Amser. 8.30y.h
H a’r Band
Cowbois Rhos Botwnnog
Y Cledrau
Lle: Clwb y Legion, Llanrwst.
Pris: £10
Tocynnau yn mynd yn dda iawn, felly gofyn archebu o flaen llaw.

Am fwy o fanylion, ewch i ymweld ag ein gwefan llanastllanrwst.tumblr.com neu cysylltwch â swyddfa Menter Iaith Conwy , 01492 642 357, ceri@miconwy.org


LLANAST LLANRWST 2012
30 o Dachwedd – 1af o Ragfyr

Bydd Llanast Llanrwst yn llawn digwyddiadau at ddant pawb o bob oedran eleni. Bydd yr ŵyl yn cychwyn â naws Nadoligaidd gyda stondinau ar y sgwâr, a nifer o berfformwyr gwahanol e.e. Ysgol Bro Gwydir, corau’r ardal a bydd yna ambell i berfformiad unigryw arall cyn y bydd goleuadau Nadolig y dref yn cael eu goleuo. Wedi’r digwyddiadau uchod bydd criw'r Sioe Cnoi Draenogod gyda’r beirdd ar Prifeirdd Anni Llŷn, Llŷr Gwyn Lewis, Osian Rhys Jones a Rhys Iorwerth yn heidio hi i Westy’r Eryrod am 8y.h i addysgu’r ardal am hanes y sipsiwn, drwy ddefnyddio barddoniaeth a cherddoriaeth.

Bydd dydd Sadwrn yn llawn gweithgareddau i blant, bydd yna sesiwn cerddoriaeth efo Ed Holden y rapiwr, bydd STWNSH yn cyflwyno Sioe Stwnsh yn fyw o Lanrwst!. Bydd y gweithgareddau uchod am ddim yng Nghanolfan Cymunedol Llanrwst o 11 y bore ymlaen.

Hwyr y prynhawn bydd sesiwn Llanast o gwmpas tafarndai’r dref am ddim, gyda’r band acwstig hyfryd o ochra’ Gaernarfon , Plu, yn cychwyn y noson o gerddoriaeth, i ddilyn bydd band Yr Oen (cymysgedd o gyn aelodau Jen Jeniro a Promatics) yn gwneud eu hymddangosiad cyntaf ERIOED ac yn creu synau garej, roc seicodelic budur!! Bydd y band seicodelic o Benmachno Sen Segur yn perfformio ar syrffwŷr o Ogledd Cymru, Y Niwl. Bydd y noson yn cloi gyda H a’r Band (Edward H), a Cowbois Rhos Botwnnog ac Y Cledrau yng Nghlwb y Legion, £10 y tocyn, 8:30y.h.

Am fwy o fanylion, ewch i ymweld ag ein gwefan llanastllanrwst.tumblr.com neu cysylltwch â swyddfa Menter Iaith Conwy , 01492 642 357, ceri@miconwy.org


llyfr

 

 

Llyfr Termau Awyr Agored Dwyieithog ar gael am DDIM drwy ffonio 01492 642357

 

 

 

 



poster poster

 


DATGANIAD I’R WASG Cyfarfod Blynyddol Menter Iaith Conwy - cliciwch yma


Cynllun Mentrau Iaith Y Gogledd - cliciwch yma


Mae Clwb Syrffio Menter Iaith Conwy  wedi ail ddechrau am yr haf!

Byddwn yn cwrdd bob wythnos unai ar nos Fawrth neu nos Fercher
(yn Rhosneigr fel arfer – yn dibynnu ar y tonnau!)

Cysylltwch efo Bedwyr am fanylion: 07931 879 879


IAITH Y MÔR A’R MYNYDD
Arian newydd i Hyfforddi Hyfforddwyr Cymraeg yn eich ardal chi!

poster

Cliciwch ar y poster am fwy o wybodaeth.


19.12.2011 - DATGANIAD I’R WASG - Buddsoddiad newydd i hybu swyddi lleol - mwy


Taith Patagonia 2011

Yn ystod mis Hydref 2011 bu criw o 20 o bobl ifanc o Ogledd Cymru ar daith i Patagonia gyda Mentrau Iaith Cymru ar Urdd.

Cychwynnodd y daith yn yr Andes lle roedd Iwan Madog, swyddog menter Patagonia yr ardal, wedi paratoi rhaglen o weithgareddau iddyn nhw eu gwneud. Buont yn plannu blodau, paentio a thacluso tu allan i’r Ysgol Gymraeg yn Trevelin, yn Esquel buont yn cynnal ffair Wanwyn ble roedd y bobl ifanc yn gyfrifol am weithgareddau gwahanol ee gwneud cacennau, chwarae gemau, darllen, paentio wynebau a chanu gyda trigolion Cymraeg yr Andes. Cwrddasant â llawer o bobl hŷn yr ardal a oedd yn siarad Cymraeg ac aethant am baned i gael sgwrsio gyda hwy yn eu tai. Dywedodd Anest Evans o Goleg Meirion Dwyfor:

“Neis oedd cael cymdeithasu gyda pobl Cymraeg ochr arall y byd. Profiad anhygoel.”

Yna ymlaen ir Dyffryn lle roedd Lois Dafydd, swyddog menter Patagonia yn yr ardal, y tro yma wedi paratoi gweithgareddau ar eu cyfer. Roeddent yn cymysgu gyda pobl ifanc o goleg Camwy ac yn gwirfoddoli yn yr Ysgol Feithrin Gymraeg yno. Buont i weld Pengwiniaid i Puerto Tombo gyda Ysgol Gymraeg yr Hendre, ac ar y ffordd yn ôl i’r Gaiman roeddent yn mynd o amgylch capeli bychain i ganu ychydig o eitemau i ddiddanu pobl yr ardal. Roedd hi’n gyfnod prysur yn y Dyffryn gan fod yr Eisteddfod yn Trelew tra roeddent yno. Cyfle gwych oedd hyn iddynt gyfarfod llawer o bobl Cymraeg Patagonia, roedd yr Orsedd yn wahanol i’r Orsedd yma yng Nghymru ond roedd yn gartrefol iawn. Roeddent wedi bod yn rhoi help llaw i’r gymuned baratoi y te ar gyfer pobl ar ôl i’r orsedd ddod i ben, a bu rhai yn gosod cadeiriau ar gyfer y cylch.

Roedd llawer ar y daith yn cystadlu yn yr Eisteddfod a bu Sian Miriam, Bethany Celyn a Steffan Rhys Hughes yn llwyddiannus iawn. Dywedodd Bethany Celyn o Ysgol Glan Clwyd:

“Anhygoel profi yr Eisteddfod yn Sbaeneg yn ogystal a Chymraeg a chael blas ar ddiwylliant cerddorol yr Ariannin.”
Fe gafodd y côr wobrau hefyd ond ni wnaethant gipio y wobr gyntaf y tro hwn!  Wedi’r Eisteddfod buont yn canu gyda chôr yr Ysgol Gerdd yn y Gaimain ,yn ystod y Gymanfa. Roedd hyn yn brofiad gan eu bod yn canu yn Sbaeneg ac yn Gymraeg.

Taith y bydd y bobl ifanc i gyd yn ei gofio am byth oedd y daith yma ac maent i gyd eisiau diolch i holl staff y Mentrau ar Urdd bu ar y daith gyda hwy, a hefyd maent yn diolch i bawb yn Patagonia am y croeso cynnes a dderbyniwyd ganddynt.


ADRODDIADAU BLYNYDDOL

Adroddiad Blynyddol Menter Iaith Sir Conwy Ebrill 2005 – Mawrth 2006 - cliciwch yma

Adroddiad Blynyddol Menter Iaith Sir Conwy Ebrill 2006 – Mawrth 2007 - cliciwch yma

Adroddiad Blynyddol Menter Iaith Sir Conwy Ebrill 2007 – Mawrth 2008 - cliciwch yma

Adroddiad Blynyddol Menter Iaith Sir Conwy Ebrill 2008 – Mawrth 2009 - cliciwch yma

Adroddiad Blynyddol Menter Iaith Sir Conwy Ebrill 2009 – Mawrth 2010 - cliciwch yma

Adroddiad Blynyddol Menter Iaith Sir Conwy Ebrill 2010 – Mawrth 2011 - cliciwch yma


Llanast Llanrwst

Gŵyl Llanast Llanrwst 
Tachwedd 25 - 30, 2011


Ffansio gwyliau yn yr eira y flwyddyn nesaf?

Mae Menter Iaith Conwy yn trefnu trip i alpau Ffrainc, mae croeso i bawb o bob oed.

Dewch i fwynhau’r eira, i gerdded, siopa mewn awyrgylch alpaidd, mwynhau’r bwyd godidog, heb sôn am sgïo neu eirafyrddio ar lethrau un o ardaloedd sgio mwyaf byd – Y Portes du Soleil, y lle perffaith ar gyfer pob lefel.

“Mae Les Gets yn le delfrydol i deuluoedd, cyplau ac unigolion, gan fod yma lethrau i ddysgwyr yn ogystal a arbenigwyr, a digonedd o weithgareddau oddi ar y piste hefyd” yn ôl Bedwyr, trefnydd y trip.

“Nod y trip yw cael Cymru Cymraeg at ei gilydd heb orfod gwario’n wyrion ar wyliau drud.”
Fel paratoad i’r rheini sy’n dymuno dysgu cyn y gwyliau, mae Menter Iaith Conwy yn cynnal clwb cyson am bris gostyngol.

Cysylltwch gyda Bedwyr: 07931879879 am ragor o wybodaeth, neu am sgwrs anffurfiol.


Gwyliau Sgio


Ym mis Ebrill eleni trefnwyd taith i dref hyfryd Les Gets yng nghanol mynyddoedd Portes du Soleil yn Ne Ffrainc.
Manteisiodd nifer o bobl ar y cyfle i ddysgu sut i eirafyrddio trwy Fenter Iaith Conwy cyn mynd ati i eirafyrddio ar y llethrau yn Ffrainc. Aeth dros 30 o bobl ar y daith; bu rhai yn sgïo, rhai yn eirafyrddio ac eraill yn beicio neu’n cerdded. Roedden nhw’n dod o bob cwr i Gymru, o Gonwy, Gwynedd ac Ynys Môn, ac ambell un o’r de. Roedd rhai ohonyn nhw’n Gymry iaith gyntaf ac eraill wedi dysgu Cymraeg. Cymysgedd go anarferol o bobl, ond roedd pawb wedi mwynhau. 

Buom yn aros mewn caban hyfryd yn les Gets gan fynd i Avoriaz i eirafyrddio, ardal odidog â llethrau gwych ar gyfer pob lefel. Er iddi wneud y tymor sgïo gwaethaf ers hanner canrif yn Ffrainc, roedd safon yr eira yn dda yn Avoriaz.

Cawsom adborth cadarnhaol iawn gan bawb. Roedd yn amlwg fod rhai o’r dysgwyr Cymraeg wedi cael budd enfawr o fod yng nghanol Cymry Cymraeg am wythnos gyfan.

Byddwn yn trefnu taith arall i Les Gets y flwyddyn nesaf (Mawrth y 10fed tan yr 17eg) . Bydd y llety yn costio £250 y person.  Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Bedwyr ap Gwyn ar 01492 642357 neu bedwyr@menteriaithconwy.cymru247.net.


Cynllun Sioe Gerdd Dyffryn Conwy

Ar Fehefin y 9fed, 2011, bu i 114 o ddisgyblion blwyddyn 6 o naw Ysgol wahanol yn Sir Gonwy ddod at ei gilydd i gymryd rhan mewn sioe hynod gyffrous. 
Menter Iaith Conwy a Thîm Ymgynghori ar y Gymraeg yng Nghonwy oedd yn gyfrifol am y sioe, a gafodd ei ariannu gan y Cynllun Datblygu Gwledig. 

Cafodd y sioe ei hysgrifennu gan Mair Tomos Ifans a chafodd y caneuon eu cyfansoddi gan Gai Toms. Roedd y sioe yn mynd i’r afael â nifer o chwedlau a hanesion lleol gan eu cymysgu gyda’i gilydd i greu perfformiad gwerth chweil.  

Bwriad y sioe oedd magu hyder y disgyblion i ddefnyddio eu Cymraeg; ac roedd prosiect cyffrous o’r fath yn ffordd wych i wneud hynny. Roedd y sioe yn hefyd yn gyfle i’r disgyblion wneud ffrindiau newydd cyn iddyn nhw fynd i’r Ysgol uwchradd ym mis Medi.

Roedd sawl person yn gyfrifol am lwyddiant y sioe, yn arbennig y cyfarwyddwr Llion Williams.

Dyma’r ysgolion fu’n cymryd rhan yn y sioe; Pant y Rhedyn, Pencae, Capelulo, Bro Gwydir, Dolgarrog, Trefriw, Betws y Coed, Penmachno a Dolwyddelan. 
Bu i’r holl ddisgyblion wneud yn wych ar y noson. Dywedodd Esyllt Tudur, Menter Iaith Conwy:
“Gweithiodd y disgyblion yn hynod o galed gan wneud y sioe yn llwyddiant ysgubol. Roedd dydd Iau yn ddiwrnod hir ond fe lwyddodd y disgyblion i roi perfformiad canmoladwy dros ben. Dw i’n siŵr y byddwn ni’n gweld nifer ohonyn nhw ar ein llwyfannau yn y dyfodol.” 

Cafodd y rhieni ac aelodau’r Cyngor eu plesio’n arw gan y sioe. Roedd yn berfformiad heb ei ail ac yn un fythgofiadwy i’r rhieni a’r plant.


Gemau Buarth

gemau buarth

gemau buarth

Sesiwn y bu i bawb ei fwynhau ac a fydd yn parhau yn yr Ysgol


Canu Conwy


Lansiad Strategaeth Iaith

Roedd Llywodraeth y Cynulliad wedi penderfynu lansio ei strategaeth iaith newydd Iaith Byw:Iaith Fyw ar sgwâr Llanrwst o flaen Swyddfa Menter Iaith Conwy.

Dewiswyd y lleoliad yma gan fod llawer o waith y Fenter yn adlewyrchu amcanion y strategaeth o ran cryfhau'r Gymraeg fel iaith fyw gymunedol. Roedd hefyd yn gydnabyddiaeth o arloesed Menter Iaith Conwy sydd erbyn hyn yn cyflogi 15.

Trefnwyd fod plant ysgol dosbarth derbyn Ysgol Bro Gwydir yn cael cyfle i chwarae gemau Buarth o dan ofal Manon Celyn a chymeriadau plant. 

Cafwyd areithiau gan Alun Ffred Jones (AC a Gweinidog Treftadaeth, ac yn bwysicach efallai un o gyd awduron C’mon Midffild ) a Meirion Prys Jones Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

Meddai Mr Alun Ffred Jones: 
"Er gwaethaf y cyfrifiad diwethaf a oedd yn dangos bod sefyllfa'r iaith yn addawol, yn enwedig ymhlith pobl ifanc, mae'n dal i fod yn ansicr.
Nod y strategaeth ddrafft yw adeiladu ar lwyddiannau Iaith Pawb a Llywodraeth Cymru'n Un i gynyddu nifer y bobl ledled Cymru sy'n gallu siarad Cymraeg ac yn dewis gwneud hynny.

Nid yw'r strategaeth hon yn sefyll ar ei phen ei hun. Ynghyd â'r Mesur ar y Gymraeg a'r Strategaeth ar Addysg Cyfrwng Cymraeg a gafodd eu cymeradwyo'n ddiweddar, bydd y strategaeth hon yn helpu i wireddu gweledigaeth y Llywodraeth hon ar gyfer Cymru wirioneddol ddwyieithog.

Mae bron i bawb sy'n siarad Cymraeg yn rhugl yn siarad yr iaith bob dydd, ond mae angen rhagor o gyfleoedd arnyn nhw i ddefnyddio'r iaith ym mhob agwedd ar fywyd," meddai Mr Jones.
"Er enghraifft, dros y ganrif ddiwethaf rydyn ni wedi colli llawer o'r gweithleoedd lle câi'r Gymraeg ei defnyddio'n naturiol. Un o heriau'r strategaeth hon fydd creu ystod eang o gyfleoedd i ddefnyddio'r iaith bob dydd eto.

Her fawr arall fydd ysbrydoli plant a phobl ifanc i ddefnyddio'r Gymraeg a chreu'r cyfle iddyn nhw fagu hyder ac ymfalchïo yn y ffaith eu bod yn defnyddio'r iaith bob dydd.

Dwi'n ddiolchgar i Fwrdd yr Iaith Gymraeg am eu cyfraniad gwerthfawr at y gwaith o ddrafftio'r strategaeth hon, a dwi'n gobeithio y bydd hyn yn ein helpu ni i ddatblygu'r gwaith da y mae wedi'i wneud dros y blynyddoedd. Dw i'n edrych ymlaen at glywed barn pobl am ein strategaeth."

Dywedodd Cyfarwyddwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Meirion Prys:
"Bu'n fraint cydweithio a'r Llywodraeth ar baratoi'r Strategaeth hon, ac rwy'n falch o'r cyfle i gymryd rhan yn y lansiad heddiw.

Mae'r strategaeth yn adeiladu ar yr ewyllys da cynyddol sydd yna tuag at yr iaith, ac mae'n gosod allan y llwybr i ni o ran sicrhau y bydd y Gymraeg yn blodeuo ym mhob agwedd ar fywyd yng Nghymru.

Mae'r Strategaeth yn cydnabod pwysigrwydd gweithio yn y gymuned, boed hynny yn y Gymru wledig neu yn y Gymru drefol, mewn ffordd sy'n adlewyrchu anghenion arbennig ardaloedd arbennig."

Ymhlith prif argymhellion y strategaeth ddrafft mae:
• Creu Ardaloedd Datblygu Iaith ar draws Cymru mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, mentrau iaith a sefydliadau eraill. 
• Datblygu prosiect Trefi a Dinasoedd Dwyieithog er mwyn hyrwyddo'r defnydd o'r iaith mewn lleoliadau trefol. 
• Datblygu Cynllun Cyflawni'r Gymraeg ar gyfer y grŵp oedran 0-5 oed. 

Fe ddaeth y lansiad i ben efo Gwibdaith Hen Fran yn canu ar y sgwâr.

Gelli'r weld y strategaeth trwy fynd at y ddolen isod.

http://wales.gov.uk/consultations/welshlanguage/wlsconsultation/?lang=cy

Mae modd i'r cyhoedd ymateb iddo ond mae rhaid neud erbyn diwedd Ionawr.


Glan-Llyn

Diolch i gynllun Gwreiddiau Conwy cynllun datblygu gwledig Conwy ac arian gan y cyngor Prydeinig cafwyd wythnos i’w chofio yng Nglan llyn yng nghwmni criw o Belfast, Abertawe a Cork.

Dyma’r hanes gan un o’r bobl ifanc, Elin Arfon:

“Wythnos yn llawn anturiaethau oedd yn ein disgwyl pan gyraeddasom Glan-llyn ar ddydd Llun Hydref 25ain. Nid oeddent wedi gweld y criw o Belfast, Cork ac Abertawe ers pum mis, ac roedd pawb yn edrych ymlaen i weld ei gilydd. Felly y nos Lun yno mi heidiom i Ffair Bala gyda dau o’r criw yn eu pyjamas un rhan pinc wedi ei orchuddio â sêr mawr melyn. Aethom i Lanrwst, Llandudno a Chonwy ar y dydd Mawrth. Felly ar ôl treulio’r bore wrth y glannau daethom yn ôl i Llanrwst ble gawsom gwis ar y dref. Nawr i feddwl bod ein criw ni o Lanrwst, y tîm nad oedd gyda’r un aelod o’r ardal a gurodd. Hwyrach dylem ddysgu mwy am ein tref ni yn lle mynd i galifantio i’r de ac i Iwerddon! 

Cadwraeth oedd prif thema yr wythnos ac felly cafodd y pedwardeg ohonom ein rhannu’n ddau grŵp. Tra’r oedd un grŵp yn aros yng Nglan-Llyn ac yna’n mynd i Feddgelert ar y dydd Iau, aeth Elin Mair, Glesni a mi yno y dydd Mercher gyda’n criw ni. Pan gyraeddasom roeddem am aros mewn yurts a thorri coed. Nawr i feddwl ein bod ni’n genod o gefn gwlad, ni fedrwn ond dychmygu trychinebau’n digwydd fel Elin yn llifio’i bysedd a minnau’n torri coes Glesni’n lle’r boncyffion. Beth bynnag er gwaethaf yr hunllefau, fe brofon ni ein bod wedi ein gwneud i dorri coed. Felly ar ôl yn halibalŵ o dorri’r coed, daeth Manon Prysor i adrodd chwedl Branwen i ni, roeddem wedi dotio gyda’i dawn. Yna aethom am dro’n y tywyllwch cyn gorffen y noson o gwmpas y tân yn adrodd straeon. Cawsom hwyl yn aros yn yr yurts er y bum yn crynu wrth feddwl bod rhywbeth o’r goedwig am ein bwyta. Yna y dydd Iau fe aethom i gyfarfod y grŵp arall yn Llanberis cyn mynd i gerdded o gwmpas y llynnoedd, roedden nhw wedi bod yn canŵio nos ar y nos Fercher. Roedd y nos Wener yn wych, gweithdy Beat Bocsio gyda Ed Holden ac yna cynhaliwyd disgo i gloi’r noson. 

Yna daeth ddydd Sadwrn ac roedd rhaid ffarwelio â phawb, doedd neb eisiau gadael, ac mi fydd yn naw mis hir nawr cyn cael mynd i lawr i’r de i’r rownd nesaf. Hoffwn ddiolch i bawb a wnaeth yr wythnos yn gofiadwy ac yn enwedig i Esyllt, Arwel, Sion a Sioned. Abertawe, byddwch yn barod am hwyl!”

Edrychwn ymlaen yn fawr at fynd i Abertawe yn mis Gorffennaf.


sali mali

Taith Pentre Bach

Trefnwyd taith ar gyfer teuluoedd i Bentre Bach dydd Sadwrn 2ail o Hydref.

Bu’n daith llwyddiannus iawn gyda 35 o rieni a phlant yn ymuno gyda ni ar y daith. Cawsom weld cartref Sali Mali, Nicw Nacw, Tylwyth teg, coblyn a Bili Bom Bom, ac roedd pobl y pentref yn groesawgar iawn.

pentre bach
pentre bach
pentre bach

Roedd rhai wedi penderfynu cael bwyd yng Nghaffi Sali Mali ac roedd yr holl weithwyr yn ddymunol iawn. Wedi i ni gyd gael cinio cawsom gystadleuaeth helfa esgidiau lle roedd y plant yn mwynhau chwilio am barau gwahanol o esgidiau. Diwrnod arbennig iawn oedd hi i un bachgen ar y daith gan ei bod yn ben-blwydd arno. Cafwyd cacen a phawb yn ymuno i ganu pen-blwydd hapus.

Dywedodd Esyllt o Menter Iaith “Roedd yn braf gweld y teuluoedd i gyd yn cymysgu ac yn mwynhau. Bu’n gyfle gwych i rhai teuluoedd oedd ddim mor hyderus siarad Cymraeg gyda eu plant, gael cyfle i ymarfer a mwynhau y profiad hefo’i gilydd drwy’r Gymraeg.”

Bu’n ddiwrnod hwyliog iawn ac roedd pawb wedi mwynhau. Gobeithiwn y byddwn yn trefnu taith arall yno eto’n fuan.


Cronfa Swyddi’r Dyfodol Consortiwm y WCVA

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


Taith Gyfnewid 4 Cornel

Yn ystod wythnos gyntaf Mis Gorffennaf cymrodd criw o bobl ifanc Dyffryn Conwy ran mewn prosiect cyfnewid rhwng Conwy, Abertawe, Belfast a Cork.
Nod fwyaf y prosiect yma yw i’r bobl ifanc gael dysgu am dreftadaeth, diwylliant, iaith ar syniad o berthyn o fewn y gymuned Geltaidd.

Dyma Hanes y daith gan un o’r bobl ifanc, Lowri Llwyd Roberts:
“Deffrais fore Sul y 4ydd o Orffennaf i wynt a glaw mawr, tywydd gwych i deithio dros fôr Iwerydd! Yn anffodus i mi ac eraill ar y fferi, cawsom gychwyn hunllefus i’r trip. Deuddeng awr yn ddiweddarach cyrhaeddom canolfan awyr agored Ardnabannon ym mhentref Castlewellan a oedd tua awr o Belfast sef prif ddinas Gogledd Iwerddon. 

Braidd yn lletchwith oedd hi ar y noson gyntaf ymhlith deugain o blant dieithr o Cork, Abertawe a Belfast, ond erbyn i ni gael ein rhannu mewn grwpiau, gorfodwyd ni i wneud ffrindiau newydd. Cawsom y cyfle i fwynhau gweithgareddau ac atyniadau a gynigiwyd gan y wlad, a oedd yn cynnwys clogfeini, mynydda, ‘The Giant Causeway’, pont wedi’i wneud o raff sef ‘Carrick-a-Rede’, a disgo sglefrio. 

Ar y dydd Iau, cawsom ymweld â Belfast a’n haddysgu am hanes y gwrthdaro rhwng y Protestaniaid a’r Catholigion, gwelsom y porthladd lle adeiladwyd y llong fyd-enwog ‘Titanic’, yna y darn gorau o’r diwrnod: cyfle i siopa yn sêl haf! 

Gyda bws i’w ddal am hanner awr wedi pump y bore canlynol, aethom i’n gwlâu yn fuan (hynny yw hanner awr wedi dau y bore- nid oeddem am adael heb barti i ddathlu)! Braf oedd cael pymtheg awr o gwsg ar ôl cyrraedd Llanrwst yn fyw ac yn iach nos Wener!

Hoffwn i a holl griw y daith, ddiolch i’r noddwyr am ein cefnogi yn ariannol ar gyfer ein taith i Ogledd Iwerddon. Edrychwn ymlaen i groesawu’r criw cyfnewid yma ym mis Hydref 2010.”

Roedd yr holl bobl ifanc wedi mwynhau yn fawr ac roedd yn agoriad llygaid iddynt. Maent yn edrych ymlaen i groesawu’r criw i gyd atom ni yng Nglan Llyn ym mis Hydref am ran nesaf o’r prosiect.

Mae’r prosiect yma yn cael ei ariannu gan gynllun ‘Causeway’ y Cyngor Brydeinig ac hefyd yn un o brosiectau Cronfa Datblygu Gwledig Conwy.


COFIO TYWYSOGES GWENLLIAN

Roedd hi’n Dydd Cenedlaethol er mwyn cofio Tywysoges Gwenllian, dydd Sadwrn y 12fed o Fehefin. Merch i Llywelyn ein llyw olaf oedd Gwenllian, a pan fu farw Llywelyn fe wnaeth brenin Lloegr garcharu Gwenllian yn Sempringham gan mai hi oedd yr unig etifedd a allai fod wedi rheoli Cymru ar ôl marwolaeth Llywelyn. Yno y bu Gwenllian ar hyd ei oes a bu farw yn 1337.

Brynhawn dydd Gwener 11eg o Fehefin fe wnaeth criw o bobl ifanc Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst o dan arweiniad Menter Iaith Conwy ar Urdd, gymryd rhan mewn taith gerdded noddedig i fyny Carnedd Gwenllian sydd yn un o’r 14 copa uchaf yng Nghymru. Cafodd y mynydd yma a oedd dan yr enw Carnedd Uchaf ei ailenwi yn Carnedd Gwenllian yn 2009 er mwyn cofio am y dywysoges.

Roedd y daith yn 14km i fyny heibio Foel Frech ac fe wnaeth yr holl griw gyrraedd y copa a chasglu dros £200 ar gyfer taith gyfnewid rhwng Gogledd Iwerddon, Iwerddon a De Cymru. Mae’r prosiect yma yn cael ei gefnogi gan Cynllun Partneriaeth Gwledig Conwy.

Bydd y bobl ifanc yn teithio i Ogledd Iwerddon yn ystod wythnos gyntaf Gorffennaf. Yno y byddent yn dysgu am dreftadaeth, diwylliant a iaith y partneriaid eraill. Mae cyfle hefyd iddynt godi ymwybyddiaeth ymysg y partneriaid hynny o’r treftadaeth nhw eu hunain, fydd yn cynnwys hanes Llywelyn a Gwenllian.

Dywedodd Esyllt Tudur o Menter Iaith Conwy:
“Mae’n bwysig iawn fod pobl ifanc heddiw yn dysgu am hanes Cymru. Bwriad y daith yma oedd codi arian ar gyfer y daith i Iwerddon ond yn bwysicach na hynny oedd creu ymwybyddiaeth o Ddydd y Dywysoges Gwenllian. Roedd y bobl ifanc wedi cael mwynhad o’r daith ac rydym ni yn falch iawn fod pob un ohonynt wedi cyflawni’r daith.”


Eirafyrddio

Ers blwyddyn bellach mae Menter Iaith Conwy, mewn partneriaeth gyda Cymunedau’n Gyntaf. Wedi bod yn rhedeg clwb Syrffio i Gymry Cymraeg ym Mhen Llyn a Môn ar gyfer pobl ifanc o’r ddwy ardal ynghyd a Chonwy.

Ond eleni penderfynwyd mentro i amgylchedd hollol wahanol sef i’r mynydd ac yn bwysicaf fyth, i’r Eira ar y mynyddoedd. Trwy gymorth ariannol oddi wrth Arian i Bawb cynllun  o dan Gronfa’r Loteri Fawr a Cyngor Chwaraeon Cymru, llwyddwyd eleni i ymestyn gweithgareddau y clwb i gychwyn Eirafyrddio (Snowboarding). Cawsom gymorth ymarferol gan Simon sy’n gweithio i’r Bartneriaeth Awyr Agored. Cawsom lawer o gymorth oddi wrth siop “Menai Ski and Outdoor” ym Mhorthaethwy i gael gafael ar yr offer bwrpasol.

Ar nos Fawrth y 4 o Fai daeth 14 o ieuenctid o Ynys Môn a Chonwy at ei gilydd i drio eirafyrddio am y tro cyntaf. Cynhaliwyd y sesiwn ar lethr sgïo John Nike yn Llandudno.

Dywedodd Bedwyr ap Gwyn o Menter Iaith Conwy;
Mae’n bwysig fod y math yma o gyfleon i gael yn Gymraeg, ynghyd a gweithgareddau awyr agored yn gyffredinol, gan fod yna gymaint o brinder siaradwyr Cymraeg yn gweithio yn y maes. Rydym yn gobeithio rhwng eirafyrddio a syrffio y byddwn yn cynnal clwb byrlymus gan drefnu tripiau i syrffio ac eirafyrddio.”

Mi fydd y clwb yn cwrdd yn aml trwy’r flwyddyn, am fwy o wybodaeth ffoniwch Bedwyr ap Gwyn ar 01492 642 357 neu ebostio: bedwyr@menteriaithconwy.cymru247.net


Trip Pentre Bach

Menter Iaith Conwy yn cynnal trip i Pentre Bach ar gyfer teuluoedd ar Hydref y 1af. Cliciwch yma am fwy.


Calendar Gweithgareddau'r Bro- Cliciwch yma



Gwersi Cymraeg

Ydach chi'n adnabod rhywun sydd eisiau dysgu Cymraeg?

Am fwy o fanylion ynglŷn a'r cyrsiau dysgu Cymraeg yn Sir Conwy, cysylltwch gyda Howard Edwards (Popeth Cymraeg) ar 01492 641494 / howard@popethcymraeg.com  neu Janet Charlton (Cyrsiau WLPAN) 01690 710187.

 

Manylion Cyswllt

Menter Iaith Conwy
Y Sgwar
Llanrwst
Sir Conwy
LL26 OLG
Neu ffoniwch (01492) 642357

 

 

Swyddogion

Staff Craidd 
Cyfarwyddwr Datblygu – Meirion Ll Davies
Swyddog Cyllid – Teleri Hughes
Swyddog Gweinyddol Cynorthwyol – Bethan Jones
Swyddog Ardal Arfordirol - Manon Celyn
Swyddog Ardal Wledig – Ceri Phillips

Prosiectau Penodol
Swyddog Datblygu Asiantaeth Awyr Agored – Bedwyr ap Gwyn
Swyddog Codi Cymhwysedd Cymunedol – Eirian Jones 
Swyddog Trawsffiniol - Esyllt Tudur

Cyfieithu Cymunedol
Prif Gyfieithydd – Glyn Jones
Mentor/golygydd – Dafydd Chilton
2 i 3 Cyfieithydd dan hyfforddiant Ffion ac Eluned

Swyddog Mentrau Iaith Cymru – Iwan Glyn

Swyddogion Cynothwyol
Eryl Jones
George Amor

 

Aelodau Mentrau Iaith y Golgledd

Help / Cymorth